Management Support
54 Tyddyn Llwydyn, Caernarfon, Gwynedd, Gogledd Cymru, UK LL55 2LX | Ffôn: 01286 675779 Gwefan: www.getthatgrant.co.uk
Ymholiadau Ymgynghoriaeth a Hyfforddiant - Ebost: mail@mswales.com Gwefan: www.mswales.com
Cyngor
Fysech chi'n croesawu cymorth efo marchnata; rhagolwg ar eich cyllid; recriwtio; cyfraith gyflogi neu unrhyw agwedd arall o'ch busnes? Mae'n eithaf tebyg y gallwn eich helpu chi.
Ers 1993, rydym wedi helpu busnesau ledled Gogledd Cymru i godi ei gwerthiant a chwyddo'r elw; gwella'r llif arian; cynllunio twf a datblygiadau cyfundrefnol; datrys problemau goroesi; datblygu pobol a llawer i fater arall.
Cynllunio
O bryd i'w gilydd, bydd gan bob cyfundrefn yr angen i ddarparu cynlluniau busnes; rhagolygon ariannol; cynlluniau marchnata, ac adroddiadau eraill. Fel arfer, mae'r dogfenau hyn ar gyfer darparu achos busnes, felly mae'n bwysig iddynt wneud cyfiawner a'r gyfundrefn.
Rydym ni'n arbennigwr ym maes cynllunio busnes a gallwn un ai eich helpu i ddarparu cynlluniau busnes broffesiynol neu gwneud y gwaith ar eich rhan. Gallwn hefyd eich cynghori ynglyn â hyfywdra prosiectau, cynnyrch neu wasanaethau newydd.
Grantiau
Mi all grant eich helpu i gael adnoddau na fuasech yn gallu eu fforddio ar eich pen eich hun.
Gallwn eich helpu chi i gael hyd i grantiau addas, os ydyn nhw ar gael, ac un ai darparu cais ar eich rhan neu eich cynghori a'ch cynnal wrth i chi wneud y gwaith eich hunain.
Os ydych o ddifrif ynglyn â cheisio am grantiau, prynu'r llyfr hwn fyddai o bosib y buddsoddiad gorau allech ei wneud.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Amdanom Ni
Gan weithio gyda thîm aml-ddisgyblaethol o aelodau cysylltiol, mae Management Support Cymru yn darparu gwasanaeth busnes dwyiethog mewn Ymgynghoriaeth i Fusnesau' a 'Gwasanaethau Hyfforddian't drwy ogledd a chanolbarth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu y safon uchaf posibl o gymorth i sefydliadau o bob math ac wedi bod yn gwneud hyn yn llwyddiannus iawn am amser maith.

Mae gan ein cynhorwyr gymhwysterau uchel a phrofiad eang yn eu meysydd o arbenigaeth, felly mae tîm pwerus ar gael i chi. Dechreuodd Arthur Crump y practis ym 1993, ac mae'n berchennog a phrif gynghorydd Management Support Cymru. Mae ganddo brofiad anarferol o eang o reolaeth busnes o bob math, sy’n cynnwys busnesau newydd i gyfundrefnau rhyngwladol. Cychwynnodd Arthur ei gwmni electroneg ei hun pan oedd yn 32 oed ac mae wedi bod yn berchen a rheolwr ar nifer o gwmnïau eraill ers hynny, ym Mhrydain a'r Dwyrain Canol. Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad o ymgynghori busnesau o wahanol fathau mewn nifer o wledydd.
Rydym wedi cael y fraint o helpu cannoedd o gyfundrefnau, bach a mawr, dros y 30 mlynedd diwethaf, ac yn parhau i wneud hyn. Gallwn ddarparu neu drefnu cyngor ar bron unrhyw agwedd o fusnes, a hyn drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.